Lyrics

Pan fyddwn i ar ben fy hun Yn fy mhen y ma' 'na lun Ac yn y llun mi wela i chdi, Mi rwyt yn gwmni drwy y dydd. Ac yn gefndir ma' 'na fryn Ac o mor lân yw dwr y llyn, Hiraethu rwyf am lymaid bach A chael dymuno bywyd iach. A pan dwi'n cysgu'n braf mae'r llun yn dod yn fyw Ac ochor draw i'r brynia' ma' 'na bobol erill byw, Ma' nhw'n siarad rhyw iaith brin Ond dwi'm yn dalld yr hyn ma' nhw'n ddeud Ond yn edmygu be' ma' nhw'n 'neud. Byw a parchu'n gilydd, Byw a parchu'r byd, Byw a dysgu'n gilydd, Byw a g'neud ein gora' glas Heb redag ras. Wrth ddeffro'n bora'n glun wrth glun Mi feddyliais wrth fy hun: Fod mwy yn sôn am werth y bunt Na rhai sy'n sôn am werth y byd. A pan dwi'n cysgu'n braf mae'r llun yn dod yn fyw Ac ochor draw i'r brynia' ma' 'na bobol erill byw, Ma' nhw'n siarad rhyw iaith brin Ond dwi'm yn dalld yr hyn ma' nhw'n ddeud Ond yn edmygu be' ma' nhw'n 'neud. Byw a parchu'n gilydd, Byw a parchu'r byd, Byw a dysgu'n gilydd, Byw a g'neud ein gora' glas Heb redag ras.
Writer(s): Gareth John Thomas Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out